Geiriad y ddeiseb:
Llofnodwch i gefnogi cofrestr ar gyfer pobl
sy’n cam-drin anifeiliaid. Dyma gronfa ddata canolog i
Gymru a fydd yn cynnwys enw, cyfeiriad a chollfarnau pobl sydd
wedi’u cael yn euog o unrhyw fath o gam-drin neu greulondeb
yn erbyn anifeiliaid yng Nghymru. Bydd yn ofynnol i fridwyr
neu werthwyr anifeiliaid wirio’r gronfa ddata canolog hwn cyn
caniatáu i anifail y maent yn berchen arno neu wedi’i
fridio fynd i ddarpar berchennog neu gartref newydd; os canfyddir
bod anifail gan rywun sydd wedi’i gael yn euog o gam-drin neu
greulondeb yn erbyn anifeiliaid, bydd y cyflenwr neu’r
bridiwr yn atebol a chaiff ei erlyn. Ar hyn o bryd, nid oes
cyfraith i atal rhywun sydd wedi’i gael yn euog o greulondeb
i anifeiliaid rhag symud ychydig filltiroedd i fyny’r ffordd
a chael anifail arall a’i gam-drin ymhellach. Rhaid
gweithredu cyfreithiau llymach er mwyn helpu i ddiogelu
anifeiliaid. Mae angen dirwyon trymach a dedfrydau hwy o
garchar yn ogystal â chofrestr ar gyfer pobl sy’n
cam-drin anifeiliaid.
Mae Efrog Newydd a nifer o daleithiau yn yr Unol Daleithiau eisoes wedi cyflwyno’r gyfraith hon; beth sy’n rhwystro Cymru rhag arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig? Rydych wedi clywed am Gyfraith Sarah, a luniwyd i gadw troseddwyr rhyw rhag aildroseddu. Nawr rydym yn gobeithio cael cyfraith a grëwyd yn y gobaith o atal pobl sy’n cam-drin anifeiliaid rhag achosi rhagor o greulondeb, neu rhag symud ymlaen at gam-drin pobl. Mae ymchwil wedi dangos bod cydberthynas gref iawn rhwng cam-drin anifeiliaid a cham-drin domestig. Mae nifer o lofruddion yn dechrau drwy arteithio anifeiliaid, felly gallem hefyd ddiogelu bywydau pobl.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Mari Roberts & Sara Roberts
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012
Nifer y llofnodion: 69